Bydd y staff gweinyddol yn gofyn cwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn bwcio cleifion gyda'r clinigwr cywir. Nid oes rhaid i chi roi'r wybodaeth hon wrth archebu gyda meddyg teulu ond bydd yn eich helpu chi a chleifion eraill i gael eich gweld yn gyflymach ac i gael y gofal cywir pan fyddwch ei angen.
Os ydych chi'n bwcio i weld nyrs mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod are gyfer beth mae angen yr apwyntiad arnoch chi, gan fod bob un o'r nyrsys feysydd arbenigedd, ac mae angen i ni drefnu apwyntiad gyda'r nyrs iawn i chi am yr amser iawn.
Gellir archebu'r rhain mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac yna gellir eu casglu o'r feddygfa i gleifion fynd â nhw i'r fferyllfa o'u dewis, neu eu hanfon i'r fferyllfeydd yn Amlwch, Bae Cemaes neu Benllech. Gweler y tab Presgripsiwn am ragor o wybodaeth.
Mae ein cynorthwywyr gofal iechyd yn gwneud profion gwaed o Ddyd Llun i Ddydd Iau.
Bydd samplau eraill fel samplau wrin yn cael eu profi a'u hanfon i'r labordy os oes angen.
Byddem yn gofyn i gleifion beidio â gwneud diagnosis eu hunain a gollwng samplau, ond yn hytrach siarad â chlinigydd i weld os oes angen prawf.
Cesglir samplau o'r feddygfa am 10yb bod dydd, felly mae angen i unrhyw samplau fod yn barod i'w casglu erbyn 9:30yb er mwyn roi amser i'n staff eu prosesu.
Gall cleifion hunan-dystysgrif ar gyfer yr wythnos gyntaf. Wedi hynny gallant ofyn i'r meddyg teulu neu'r ymarferydd nyrsio am nodyn ffit os ydynt wedi cael eu trin yn y practis ar gyfer y cyflwr.
Gallwn ymgymryd amrywiaeth o archwiliadau meddygol megis archwiliad meddygol Tacsi a HGV a chwblhau adroddiadau meddygol.
Mae ffi ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn y GIG. Gall y dderbynfa roi gwybod i chi.