Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau

Bydd y staff gweinyddol yn gofyn cwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn bwcio cleifion gyda'r clinigwr cywir, nad yw bob amser yn feddyg teulu.  Nid oes rhaid i chi roi'r wybodaeth hon, ond bydd yn eich helpu chi a chleifion eraill i gael eich gweld yn gyflymach ac i gael y gofal cywir pan fydd ei angen arnoch.  Yna eich cyswllt cyntaf fydd galwad ffôn 'triage' gyda chlinigydd.

Meddygon Teulu a Ymarferwyr Nyrsio          

Rydym yn cynnig apwyntiadau ar yr un diwrnod ac apwyntiad ymlaen llaw.  Os yw claf yn dymuno gweld Meddyg Teulu penodol, efallai y bydd yn rhaid iddo aros yn hirach.

Bydd plant dan 16 oed sydd â chyflwr acíwt yn cael eu gweld yr un diwrnod.

Bydd unrhyw gleifion sy'n cael 'triage' glinigol ac angen asesiad brys yn cael cynnig ymgynghoriad yr un diwrnod (allai fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn).

Yn ogystal â'n Hymarferwyr Nyrsio, sydd wedi'u hyfforddi i lefel gradd mewn gofal acíwt, gallant drin a rhagnodi ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau.

Ymweliadau Cartref

Gellir trefnu ymweliadau cartref pan fo claf yn rhy sâl i fynd i'r feddygfa.  Rhowch fanylion a rhif ffôn cyswllt wrth wneud cais.  Yn ddelfrydol, ffoniwch cyn canol y dydd.

Nyrsys y Practis

  • Diabetes - Ffoniwch i archebu a sicrhau eich bod y cael profion gwaed cyn yr apwyntiad
  • Asthma a COPD - gellir eu harchebu ar-lein
  • Atal cenhedlu, HRT a pigiadau depo - archebwch o leiaf bythefnos cyn i unrhyw feddyginiaeth ddod i ben
  • Sytoleg (Smears) - gellir eu harchebu ar-lein
  • Adolygiadau 6 mis a blynyddol NOAC - gellir eu harchebu ar-lein ond mae angen profion gwaed rheolaidd hefyd
  • Dresin a tynnu pwythau - gall rhai apwyntiadau fod yn gymhleth felly rydym yn argymell yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw
  • Gweinyddir brechiadau Teitho a Thymhorol gan nyrsys y Practis
    • Mae'r rhan fwyaf o frechiadau teithio yn rhad ac am ddim gan y GIG, ond mae rhai yn breifat, a bydd y dderbynfa yn hysbysu cleifion o'r ffi
    • Brechlyn Eryr i rai dros 70 oed - o dan 80 oed
    • Gellir archebu brechlyn Ffliw drwy Ap GIG Cymru (cliciwch am y ddolen)
    • Brechlyn Niwmonia ar gyfer y rhai mewn grwpiau risg (tebyg i Ffliw)
    • Brechlyn Pertwsis ar gyfer cleifion beichiog

Cynorthwywyr Gofal Iechyd

  • Profion gwaed a gwiriadau pwysedd gwaed arferol - gellir eu harchebu ar-lein
  • ECGs
  • Monitro INR

  Ap GIG Cymru (cliciwch am y ddolen)

Imiwneiddiadau Plentyndod a Gwiriadau Babanod

Cynhelir clinigau babanod bob yn ail ddydd Mercher yn mhob safle.  Bydd y plant yn cael eu gwahodd i fynychu ar gyfer brechiadau arferol a gwiriadau datblygaid; bydd Ymwelwyr Iechyd yn y ddau glinig.