Neidio i'r prif gynnwy

I weld eich Cofnodion Iechyd

Os hoffech weld neu gael copi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch, gallwch wneud cais "Subject Access" neu "SAR".  Gellir gwneud y ceisiadau hyn yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu drwy siarad â ni.  Rydym yn darparu ffurflen gais "Subject Access" ac mae ar gael yn y dderbynfa neu gellir ei argraffu yma (cliciwch am y ffurflen).

Sylwer:  Byddwch yn ymwybodol wrth e-bostio gwybodaeth i'r Practis na allwn warantu diogelwch y wybodaeth hon tra ar y daith, a thrwy ddefnyddio'r cyfleuster hwn rydych yn derbyn y risg.  Os dewiswch anfon e-bost atom, rydym yn argymell nad ydych yn cynnwys gwybodaeth sensitif gyda chorff yr e-bost.

Ddylech nodi eich bod yn gwneud cais i weld gwybodaeth eich hun, drwy nodi "Subject Access" yn glir ar eich cais.  Bydd rhoi digon o wybodaeth i ni yn ein galluogi i ddod o hyd i'ch gwybodaeth ofynnol mewn modd amserol.  Rhowch ddyddiad ar eich cais a rhowch:

  • Eich enw llawn, gan gynnwys unrhyw enwau eraill, os yw'n berthnasol;
  • Eich manylion cyswllt diweddaraf, dyddiad geni a rhif GIG os ydynt ar gael;
  • Rhestr gynhwysfawr o ba wybodaeth bersonol rydych eisioes, yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen arnoch
  • Manylion, megis dyddiau/cyfnodau amser perthnasol, cyfnodau o driniaeth, ac ati

Lle fydd angen, efallai y bydd arnom angen prawf adnabod derbyniol a chyfeiriad yn cynnwys un eitem o Restr A ac un o Restr B:

  • A - Tystysgrif geni, tystysgrif priodas, pasbort neu drwydded yrru;
  • B - Datganiadau Banc, bil cyfleustodau diweddar, tystysgrif treth, llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd pob cais yn cael ei gofnodi ac fel arfer yn cael ymateb o fewn mis.  Os yw eich cais yn gymhleth neu'n cael ei ystyried yn ormodol, efallai y bydd angen amser ychwanegol arnom i ystyried eich cais a all gymryd hyd at ddau fis ychawanegol.  Fodd bynnag, byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn digwydd.

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau ni fyddwn yn codi tâl i gyflawni eich cais, fodd bynnag, efallai y codir ffi resymol am weinyddu'r cais mewn rhai achosion, er enghraifft, os credwn fod eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol neu lle gofynnir am gopïau pellach o wybodaeth.

Y Practis yw'r Rheolydd Data ar gyfer cofnodion iechyd cleifion sydd wedi cofrestru gyda ni.  Lle nad yw unigolyn wedi'i gofrestru gyda Meddyg Teulu ar hyn o bryd neu ei fod wedi marw, yna cedwir y cofnodion hyn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP).  Ewch i wefan PCGC am ragor o wybodaeth (cliciwch am y ddolen).