Neidio i'r prif gynnwy

Codi Pryderon

Cyflwyniad

Mae gennym weithdrefn gwynion yn y practis sy'n rhan o bolisi "Gweithio i Wella" y GIG.  Mae hyn yn berthnasol i chi os nad ydych yn hapus â’r gofal neu driniaeth a gawsoch, neu os oes gennych bryderon yr hoffech eu mynegi.  Drwy ddweud wrthym am eich pryderon, gallwn ymddiheuro, ymchwilio, a cheisio gwneud pethau'n iawn.

Sut i Fynegi Pryder?

Gobeithio y byddwn yn gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau yn ddidraferth ac yn gyflym, fel maen nhw'n codi y rhan amlaf ac efo'r unigolyn cysylltiedig.  Gallwch hefyd gysylltu â Rheolwraig y Practis, Mrs Deborah Kalaji wyneb yn wyneb neu'n ysgrifenedig.

Pwy sy'n Gallu Mynegi Pryder?

Gallwch fynegi pryder am eich gofal neu driniaeth eich hun, neu gallwch ofyn i ofalwr, ffrind, perthynas neu'r Cyngor Iechyd Cymuned Lleol eich cynrychioli chi, ond bydd rhaid iddynt ddangos eich cydsyniad ysgrifenedig.  Os ydych chi'n cwyno ar ran rhywun arall, bydd rhaid i ni gael eu caniatâd ysgifenedig i chi wneud hynny, os nad yw'n amhosibl (oherwydd salwch) iddynt ei ddarparu.

Pryd ddylech chi ddweud wrth rywun am eich pryder?

Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl, oherwydd bydd hynny'n ein galluogi i ddarganfod yn haws beth sydd wedi digwydd, ond mae gennych hyd at 12 mis i roi gwybod i ni.  Os bydd mwy o amser na hynny wedi bod, ond bod rheswm da am yr oedi, dywedwch wrthym p'run bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn dal i allu delio â’ch pryder.