Neidio i'r prif gynnwy

Chlinigau a Gwasanaethau

APWYNTIADAU

Bydd y staff gweinyddol yn gofyn cwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn bwcio cleifion gyda'r clinigwr cywir.  Nid oes rhaid i chi roi'r wybodaeth hon wrth archebu gyda meddyg teulu ond bydd yn eich helpu chi a chleifion eraill i gael eich gweld yn gyflymach ac i gael y gofal cywir pan fyddwch ei angen.

Os ydych chi'n bwcio i weld nyrs mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod are gyfer beth mae angen yr apwyntiad arnoch chi, gan fod bob un o'r nyrsys feysydd arbenigedd, ac mae angen i ni drefnu apwyntiad gyda'r nyrs iawn i chi am yr amser iawn.

PRESGRIPSIWNS

Gellir archebu'r rhain mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac yna gellir eu casglu o'r feddygfa i gleifion fynd â nhw i'r fferyllfa o'u dewis, neu eu hanfon i'r fferyllfeydd yn Amlwch, Bae Cemaes neu Benllech.  Gweler y tab Presgripsiwn am ragor o wybodaeth.

PROFION

Mae ein cynorthwywyr gofal iechyd yn gwneud profion gwaed o Ddyd Llun i Ddydd Iau.

Bydd samplau eraill fel samplau wrin yn cael eu profi a'u hanfon i'r labordy os oes angen.

Byddem yn gofyn i gleifion beidio â gwneud diagnosis eu hunain a gollwng samplau, ond yn hytrach siarad â chlinigydd i weld os oes angen prawf.

Cesglir samplau o'r feddygfa am 10yb bod dydd, felly mae angen i unrhyw samplau fod yn barod i'w casglu erbyn 9:30yb er mwyn roi amser i'n staff eu prosesu.

NODIADAU FFIT

Gall cleifion hunan-dystysgrif ar gyfer yr wythnos gyntaf.  Wedi hynny gallant ofyn i'r meddyg teulu neu'r ymarferydd nyrsio am nodyn ffit os ydynt wedi cael eu trin yn y practis ar gyfer y cyflwr.

GWASANAETHAU NAD YDYNT YN GIG

Gallwn ymgymryd amrywiaeth o archwiliadau meddygol megis archwiliad meddygol Tacsi a HGV a chwblhau adroddiadau meddygol.

Mae ffi ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn y GIG.  Gall y dderbynfa roi gwybod i chi.