Gall eich Fferyllydd roi triniaeth a chyngor cyfrinachol GIG, yn rhad ac am ddim, ar amryw o anhwylderau cyffredin heb i chi orfod gwneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu.
Sut mae’n gweithio?
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gydda Meddyg Teulu.
Bydd rhaid i chi fynd at eich Meddyg Teulu:
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
Cewch gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim gan eich fferyllydd cymunedol ar gyfer mân salwch neu anhwylderau cyffredin fel:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth yma, cliciwch ar y linc Choose Pharmacy os gwelwch yn dda.
Uned Mân Anafiadau Ysbyty Penrhos Stanley
Caergybi
LL65 2QA
Ffôn: 03000 850022
Gwefan: Uned Mân Anafiadau Ysbyty Penrhos Stanley
Oriau agor arferol
Dydd Llun - Dydd Gwener (gan gynnwys Gŵyl y Banc) - 8yb tan 8yn
Yr hyn a welir
Cyfyngiadau Oedran
Cewch weld Ffisiotherapydd heb gweld eich Meddyg Teulu gyntaf.
Gall ffisiotherapi fod yn fuddiol iawn os ydych yn dioddef o boen yng ngwaelod eich cefn, poen yn eich gwddf, anafiadau diweddar megis ysigiadau a straen, neu poen yn y cymalau ac yn y cyhyrau.
Sut i hunan gyfeirio
1. Archebwch gyda'r Dderbynfa i weld Ffisiotherapydd mewnol yn Amlwch.
neu
2. Cliciwch ar y linc ffurflen hunan gyfeirio Ffisiotherapi.
Nid yw’r ffurflen hunan gyfeirio yn briodol os ydych o dan 18 oed neu â problem niwrolegol, anadlu neu gynaecolegol.
Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd i:
Adran Ffisiotherapi
Ysbyty Penrhos Stanley
Caergybi
LL65 2QA
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd Ffisiotherapydd yn darllen eich ffurflen ac yn gosod eich enw ar restr aros. Byddant wedyn yn eich cysylltu â chi ynglŷn apwyntiad. Efallai fydd y Ffisiotherapydd yn anfon rhywfaint o gynghor ac ymarferion i chi wneud tra byddwch yn aros am apwyntiad.
Cynghor cynnar
Os ydych yn teimlo bod eich cyflwr yn angen rhywfaint o gyngor yn unig, bydd Ffisiotherapydd yn eich galw i drafod y ffordd fwyaf priodol i reoli eich problem.
Ar gyfer ymholiadau yn unig, cysylltwch â adran ffysiotherapi ar 01407 766047/66.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd cyffredinol, dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu.