Os hoffech weld neu gael copi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch, gallwch wneud cais "Subject Access" neu "SAR". Gellir gwneud y ceisiadau hyn yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu drwy siarad â ni. Rydym yn darparu ffurflen gais "Subject Access" ac mae ar gael yn y dderbynfa neu gellir ei argraffu yma (cliciwch am y ffurflen).
Sylwer: Byddwch yn ymwybodol wrth e-bostio gwybodaeth i'r Practis na allwn warantu diogelwch y wybodaeth hon tra ar y daith, a thrwy ddefnyddio'r cyfleuster hwn rydych yn derbyn y risg. Os dewiswch anfon e-bost atom, rydym yn argymell nad ydych yn cynnwys gwybodaeth sensitif gyda chorff yr e-bost.
Ddylech nodi eich bod yn gwneud cais i weld gwybodaeth eich hun, drwy nodi "Subject Access" yn glir ar eich cais. Bydd rhoi digon o wybodaeth i ni yn ein galluogi i ddod o hyd i'ch gwybodaeth ofynnol mewn modd amserol. Rhowch ddyddiad ar eich cais a rhowch:
Lle fydd angen, efallai y bydd arnom angen prawf adnabod derbyniol a chyfeiriad yn cynnwys un eitem o Restr A ac un o Restr B:
Bydd pob cais yn cael ei gofnodi ac fel arfer yn cael ymateb o fewn mis. Os yw eich cais yn gymhleth neu'n cael ei ystyried yn ormodol, efallai y bydd angen amser ychwanegol arnom i ystyried eich cais a all gymryd hyd at ddau fis ychawanegol. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn digwydd.
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau ni fyddwn yn codi tâl i gyflawni eich cais, fodd bynnag, efallai y codir ffi resymol am weinyddu'r cais mewn rhai achosion, er enghraifft, os credwn fod eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol neu lle gofynnir am gopïau pellach o wybodaeth.
Y Practis yw'r Rheolydd Data ar gyfer cofnodion iechyd cleifion sydd wedi cofrestru gyda ni. Lle nad yw unigolyn wedi'i gofrestru gyda Meddyg Teulu ar hyn o bryd neu ei fod wedi marw, yna cedwir y cofnodion hyn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Ewch i wefan PCGC am ragor o wybodaeth (cliciwch am y ddolen).