Roedd un o ganfyddiadau allweddol ein harolwg cleifion diweddar yn cadarnhau’r farn bod angen inni symud o’r dull brysbennu gan feddygon teulu dros y ffôn, yn ôl i apwyntiadau wyneb yn wyneb yn bennaf.
Byddwn yn symud i’r system apwyntiadau newydd yn ystod y mis nesaf, ond mae angen i ni baratoi cleifion ar gyfer effaith y newid, yn bennaf oherwydd bod apwyntiadau Wyneb yn Wyneb yn cymryd mwy o amser fesul claf, felly o fewn yr un cyfnod mae’n anochel y bydd llai o apwyntiadau ar gael. O’r herwydd, mae’n bosib y byddant yn aros yn hirach i weld meddyg teulu.
Felly ystyriwch y canlynol:
Rydym yn gwybod y gall y ffonau fod yn brysur, felly ystyriwch:
Byddwn yn monitro effaith y newidiadau, ond byddwch yn amyneddgar. Dim ond hyn a hyn o oriau sydd mewn diwrnod a hyn a hyn o feddygon teulu sydd yn y practis.
Mae gwybodaeth a dolenni i ganllawiau ar gael ar ein gwefan.
Anhwylderau sydd yn datrys eu hunain
Heintiau Feirysol - ni fydd gwrthfiotigau yn helpu. Efallai y byddwn yn gofyn i chi wneud prawf er mwyn gwahaniaethu rhwng heintiau bacterol a heintiau feirysol.
GIG 111
Ystod o wybodaeth a dolenni i wirio symptomau ac i gael cyngor.
Gwefan GIG 111 Cymru
Ffôn 111
Dewis Fferyllfa
Gallwch ymweld â’r fferyllfa ar gyfer y canlynol:
Acne, Dolur rhydd, Brech cewyn, Tarwden y traed, Llygad Sych, Llindag y geg, Poen Cefn (acíwt), Hemoroidau, Tarwden, Brech yr Ieir, Twymyn Gwair, y Clefyd crafu, Dolur Annwyd, Llau Pen, Dolur Gwddf (os ydych dros 6 oed), Colig, Diffyg Traul , Torri dannedd, Llid yr amrannau (bacterol), Intertrigo, Llyngyr edau, Rhwymedd, Casewin, Llindag y fagina, Dermatitis (croen sych), Wlserau’r geg, Ferwca
Iechyd meddwl
Fedra’ i - gwasanaethau lleol a chanolfan galw heibio yn Amlwch unwaith y mis
Gwefan: FEDRA I
Ffôn: 01407 769300, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-4pm
E-bost: icanmon@ynysmoncab.org.uk
111+2 - Ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys ffoniwch 111 a pwyswch OPSIWN 2.
Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr/7 diwrnod yr wythnos os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell ffôn sefydlog neu ffôn symudol fel ei gilydd, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd.
Ffisiotherapi
Gwefan Ffisiotherapi
Anfonwch ffurflen hunangyfeirio at: BCU.PhysioAdminWest@wales.nhs.uk
Rhif Ffôn Ysbyty Penrhos: 03000 853132
Uned Mân Anafiadau Ysbyty Penrhos Stanley
Gwefan: Uned Mân Anafiadau Ysbyty Penrhos Stanley
Ffôn: 03000 850022